가사: Charlotte Church. Voice Of An Angel. Three Welsh Bird Songs: Tylluanod.
Pan fyddair?r nos yn alau,
A llwch y ffordd yn wyn,
A?r bont yn wag sy?n croesi?r dwr
Difwstwr ym Mhen LlynO?er
Y tylluanod yn eu tro
Glywid o lwyncoed Cwm y Glo
Pan siglai?r hwyaid gwyltion
Wrth angor dan y lloer
A Llyn y Ffridd ar Ffridd y Llyn
Trostynt yn chwipio?n oer,
Lleisio?n ddidostur wnaent I ru
Y gwynt o Goed y Mynydd Du
Pan lithrai gloyw ddwr Glaslyn
I?r gwyll, fel cledd I?r wain,
Pan gochai pell ffenestri?r plas
Rhwng briglas lwyn?r brain
Pan gaeai syrthni safnau?r cwn
Nosai Ynys for yn eu swn
A phan dywlla?r cread
Wedi?I wallgofddydd maith
A dyfod gosteg diystwr
Pob gweithiwr a phob gwaith
Ni bydd eu Lladin ar fy llw
Na llon na lleddf "Tw-whit, Tw-hw"